Are you interested in working in policy or public affairs?
Are you passionate about driving change in government, promoting British Heart Foundation's (BHF) mission to fund lifesaving research and advocating for the 400,000 people living across Wales with cardiovascular disease?
If so, you may be the Policy and Public Affairs Officer we need!
About the role
Our BHF Policy and Public Affairs team exists to build support amongst key decision makers so that we can beat heart disease for good. We develop BHF’s policy position and engage and influence stakeholders to help stop heart disease before it starts, save lives and support those living with heart disease to live longer, healthier lives.
In this role, you’ll promote BHF to politicians, civil servants, researchers and the clinical community in Wales, helping to ensure that key decision-makers consider BHF the expert on heart health and research.
You’ll influence the Welsh Government and other key stakeholders on our influencing priorities, making cardiovascular disease a priority in Wales as well as ensure Wales has an environment which supports excellence in heart research.
Working arrangements
This is a hybrid role, where your work will be split between your home and at least one day per week, on average, in our Cardiff Office. This may vary from time to time, so you will need to work in a flexible way to unlock your best work for our cause.
About you
With knowledge and understanding of the political environment in Wales, you’ll also have knowledge of the workings and processes of devolved government in Wales.
You’ll join BHF Cymru at an exciting time for both the charity and heart health in Wales and will play a key role in the work BHF does and the impact it is having on the lives of everyone in Wales and the UK.
To be successful in this role you’ll have the following skills and experience:
- An interest in working in policy and/or public affairs in Wales
- A willingness to learn and implement effective methods of engaging with, and influencing, political stakeholders or other senior audiences
- Be able to produce clear, concise written communication in a variety of formats for a variety of audiences
- Experience of leading own pieces of work to delivery by deadline
With excellent communication and relationship building skills you’ll be able to work with colleagues across the BHF, as well as develop strong working relationships with key external contacts in Wales.
Belonging at BHF
We are committed to fostering a workplace where everyone feels valued and supported. Embracing different perspectives and backgrounds strengthens our organisation and empowers us to make a real difference together.
To hear from our people, check out
Belonging at BHF.
Our people are at the heart of everything we do. By funding research across six decades, we’ve helped keep millions of hearts beating and millions of families together. We’re investing in ground-breaking research that will get us closer than ever to a world where everyone has a healthier heart for longer.
Interview process
Interviews will be held in person, at our Cardiff offices, between 12th - 14th August 2026.
How to apply
It’s quick and easy to apply for a role at the BHF. Just click on the apply button below. All you’ll need is an up-to-date CV and a supporting statement, outlining your interest in the role and how you meet the role’s criteria.
Our recruitment processes are fair, accessible, and inclusive. BHF use anonymous CV software as part of the application journey.
We support responsible use of AI to help shape your application. By applying for a role at BHF, you confirm that your application is authentic and reflects your own skills and experience, to ensure everyone is assessed fairly.
Should you need any adjustments to the recruitment process, at either application or interview, please
contact us.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes polisi neu faterion cyhoeddus?
Ydych chi'n frwd dros ysgogi newid yn y llywodraeth, cefnogi cenhadaeth British Heart Foundation (BHF) i ariannu ymchwil sy'n achub bywydau, ac eiriol dros y 400,000 o bobl ledled Cymru sy'n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd?
Os felly, efallai mai chi yw'r un y mae arnom ei angen i fod yn Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus!
Gair am y swydd
Diben tîm Polisi a Materion Cyhoeddus BHF yw meithrin cefnogaeth ymhlith penderfynwyr allweddol fel y gallwn drechu clefyd y galon am byth. Rydym yn datblygu polisïau BHF, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn dylanwadu arnynt er mwyn helpu i atal clefyd y galon cyn iddo ddechrau, achub bywydau a chefnogi pobl sy'n byw gyda chlefyd y galon i fyw bywydau hirach ac iachach.
Yn y swydd hon, byddwch yn hyrwyddo BHF wrth wleidyddion, gweision sifil, ymchwilwyr a'r gymuned glinigol yng Nghymru, gan helpu i sicrhau bod penderfynwyr allweddol yn barnu mai BHF yw'r arbenigwr ar iechyd y galon ac ymchwil yn y maes.
Byddwch yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ar ein blaenoriaethau dylanwadu, gan wneud clefyd cardiofasgwlaidd yn flaenoriaeth yng Nghymru a sicrhau hefyd bod y sefyllfa yng Nghymru yn bleidiol i ragoriaeth ym maes ymchwil y galon.
Trefniadau gweithio
Mae hon yn swydd hybrid, lle bydd eich gwaith yn cael ei rannu rhwng eich cartref ac o leiaf un diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd, yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Gall hyn amrywio o bryd i'w gilydd, ac felly bydd angen i chi weithio mewn ffordd hyblyg i sicrhau eich gwaith gorau dros ein hachos.
Gair amdanoch chi
Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru, a gwybodaeth am drefniadau a phrosesau llywodraeth ddatganoledig Cymru.
Byddwch yn ymuno â BHF Cymru mewn cyfnod cyffrous i'r elusen ac i iechyd y galon yng Nghymru a byddwch yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith BHF a'i effaith ar fywydau pawb yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.
Er mwyn gwneud y gwaith yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a'r profiad hyn:
- Diddordeb mewn gweithio ym maes polisi a/neu faterion cyhoeddus yng Nghymru
- Parodrwydd i ddysgu a defnyddio dulliau effeithiol o ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol neu gynulleidfaoedd eraill ar lefel uchel, a dylanwadu arnynt
- Gallu cyfathrebu'n glir ac yn gryno mewn amryw o fformatau ysgrifenedig ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- Profiad o arwain eich tasgau’ch hunan i'w cyflwyno erbyn dyddiad penodol
Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a meithrin perthnasoedd, a byddwch yn gallu cydweithio ag eraill mewn gwahanol rannau o BHF, a meithrin perthnasoedd gwaith cryf â chysylltiadau allanol allweddol yng Nghymru.
Perthyn yn y gwaith
Rydym wedi ymrwymo i feithrin gweithle lle mae pawb yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Trwy gofleidio gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd, gellir cryfhau ein sefydliad a'n grymuso ninnau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda'n gilydd.
Os hoffech glywed gan ein pobl, ewch i
Belonging at BHF.
Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn. Drwy ariannu ymchwil dros chwe degawd, rydym wedi helpu i gadw miliynau o galonnau'n curo a miliynau o deuluoedd gyda'i gilydd. Rydym yn buddsoddi mewn ymchwil arloesol a fydd yn mynd â ni'n nes nag erioed at fyd lle mae gan bawb galon iachach am gyfnod hirach.
Sut i ymgeisio
Mater a syml a sydyn yw gwneud cais am swydd yn y BHF. Cliciwch ar y botwm 'Apply' [SR2.1]isod. Y cyfan y bydd arnoch ei angen yw CV cyfredol a datganiad ategol, yn amlinellu'ch diddordeb yn y swydd a sut rydych yn bodloni'r meini prawf.
Mae ein prosesau recriwtio'n deg, yn hygyrch, ac yn gynhwysol. Mae BHF yn defnyddio meddalwedd CVs di-enw fel rhan o'r daith ymgeisio.
Rydym o blaid gwneud defnydd cyfrifol o AI i helpu i lunio'ch cais. Drwy ymgeisio am swydd gyda BHF, rydych yn cadarnhau bod eich cais yn ddilys ac yn adlewyrchu'ch sgiliau a'ch profiad chi, er mwyn sicrhau bod pawb yn cael eu hasesu'n deg.
Os bydd arnoch angen addasiadau i’r broses recriwtio, wrth ymgeisio neu ar gyfer y cyfweliad,
cysylltwch â ni.